![]() |
![]() |
||
Cydgysylltu gweithgareddauEdrychwch yma i weld y gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer arolygu, rheoleiddio ac archwilio y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag adroddiadau o’r adolygiadau.
|
LlofnodwyrCytundeb gwirfoddol yw’r Concordat Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n adeiladu ar drefn gydweithio sydd eisoes yn bodoli rhwng cyrff arolygu, rheoleiddio ac archwilio Cymru. Mae’n cynnig cyfleoedd clir i’r cyrff hyn barhau i gydweithio’n gadarnhaol i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd eu gwasanaeth, a chael gwared ar unrhyw faich diangen sy’n ymwneud ag ymweliadau, casglu data a gwaith dilynol. Roedd aelodaeth wreiddiol y Concordat yn cynnwys llofnodwyr llawn a llofnodwyr cyswllt a’r unig wahaniaeth oedd swyddogaeth y sefydliadau o ran archwilio, arolygu a rheoleiddio. Roedd llofnodwyr y Concordat yn ymrwymo i ddatblygu a gweithredu dulliau ac arferion gwaith mewn ymateb i amcanion y Concordat. Mae’r Concordat wedi esblygu ers ei lansiad yn 2005. Cafodd ei adolygu yn 2009/10, ac arweiniodd hynny at greu’r Fforwm presennol a newid y trefniadau aelodaeth, fel bod yr holl sefydliadau a oedd yn cymryd rhan i gyd â’r un statws. Erbyn yr adeg honno, roedd yr aelodaeth hefyd wedi ehangu i gynnwys sefydliadau gwella a datblygu gwasanaethau. Aelodau/Llofnodwyr Presennol Y Comisiwn Ansawdd Gofal* Gwasanaeth Gwrth-dwyll a Rheoli Diogelwch y GIG *Mae’r Comisiwn Ansawdd Gofal yn parhau i fod yn aelod/llofnodwr gan ystyried gwasanaethau trawsffiniol. Ymgeisio i fod yn llofnodwr Mae sefydliadau sy’n arolygu, rheoleiddio neu’n archwilio’r maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, neu sydd â chysylltiad agos rhwng eu gwaith ag amcanion ac egwyddorion y Concordat yn gallu cyflwyno cais i fod yn llofnodwr y Concordat.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 17/09/2012 |
|