![]() |
![]() |
||
Cydgysylltu gweithgareddauEdrychwch yma i weld y gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer arolygu, rheoleiddio ac archwilio y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag adroddiadau o’r adolygiadau.
|
Swyddfa Archwilio CymruArchwilydd Cyffredinol Cymru (AGW) yw pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, ac mae'n gyfrifol am archwilio'r cyfrifon sy'n cael eu paratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ei gyrff cyhoeddus cysylltiedig sy'n cael eu noddi, a'r GIG yng Nghymru, gan gynnwys cyrff lleol y GIG. Mae gan yr AGW hawl i gynnal archwiliadau i pa mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol (gwerth am arian) yw’r sefydliadau hynny, a'r cyrff yn y sector addysg bellach ac uwch. Mae'r AGW yn gyfrifol hefyd am benodi archwilwyr allanol sefydliadau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru, ac mae ganddo ddyletswyddau i gynnal astudiaethau gwerth am arian cymharol cenedlaethol ar draws llywodraeth leol, ac i arolygu awdurdodau Gwerth Gorau o dan Raglen Cymru ar gyfer Gwella. Gwefan: www.wao.gov.uk/cymraeg
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 02/10/2006 |
|