Chwilio'n fwy manwl  |  English

Cydgysylltu gweithgareddau

Edrychwch yma i weld y gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer arolygu, rheoleiddio ac archwilio y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag adroddiadau o’r adolygiadau.

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Cafodd y Comisiwn Iechyd a Diolgelwch (HSC) a'i gangen weithredol, Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), eu sefydlu gan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974. Maent yn gyfrifol am ddiogelu pob dinesydd, gan gynnwys gweithwyr, yn erbyn y risgiau sy'n codi i iechyd a diogelwch o ganlyniad i weithgareddau yn y gwaith. Mae'r HSE yn gorff sy'n rheoleiddio ac yn gorfodi; mae'r hawl i orfodi yn cael ei rannu yn ôl diffiniad y rheoliadau â'r awdurdodau lleol. Mae'r cyrff Iechyd yn atebol i'r HSE, ac felly hefyd y cartrefi nyrsio a'r cartrefi gofal sy'n cael eu cynnal gan yr Awdurdod Lleol. Yr Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am gamau gorfodi sy’n gysylltiedig â chartrefi gofal eraill.


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 02/10/2006