Logo Wales Concordat   Wales Concordat banner
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English

Cydgysylltu gweithgareddau

Edrychwch yma i weld y gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer arolygu, rheoleiddio ac archwilio y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag adroddiadau o’r adolygiadau.

Hafan

Ym mis Mai 2005, cytunodd y prif gyrff adolygu allanol sy’n arolygu, rheoleiddio ac archwilio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar set o amcanion ac arferion (Concordat) i gefnogi’r gwaith o wella gwasanaethau i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ac i ddileu unrhyw feichiau diangen sy’n ymwneud â’r adolygu allanol.
Cyhoeddwyd y Concordat, sef cytundeb gwirfoddol rhwng cyrff adolygu allanol hunanlywodraethol, ar 12 Mai 2005.
Mae’r Concordat ar gael i’w lawrlwytho drwy’r cyswllt isod. Efallai y bydd angen i chi lawrlwytho Adobe Acrobat Reader (cyswllt allanol) i weld y ffeiliau hyn. .

Lawrlwytho Concordat Cymru - Cymraeg (pdf 441KB)

Mae copi o’r datganiad i’r wasg hefyd ar gael i’w lawrlwytho drwy’r cyswllt isod. Efallai y bydd angen i chi lawrlwytho Adobe Acrobat Reader (cyswllt allanol) i weld y ffeiliau hyn.

Mae’r Concordat yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Cyflwynir cytundeb a Chylch Gorchwyl diwygiedig y Concordat i lofnodwyr y Concordat gytuno arnynt erbyn diwedd 2012.

 
Meithrinfeydd Plant
Ysbytai Acíwt
Gwasanaethau Ambiwlans
Cartrefi Gofal

Newyddion diweddaraf

Y Protocol Gweithredol rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru am hyrwyddo cydweithio
29 Tachwedd 2012
Mae gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru berthynas weithio agos, a hanes cadarnhaol o gydweithio. Er mwyn creiddio’r trefniadau hyn, a’u datblygu ymhellach, rydym wedi cyhoeddi protocol gweithredol ar y cyd.

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 29/11/2012