Wales Concordat logo   Wales Concordat banner
Login









Calendar Popup

Calendar Popup



(output items on single page)


Concordat Cymru – Safle Cydgysylltu Gweithgareddau

Nod y rhan hon o’r wefan yw gweithredu fel siop-un-stop er mwyn gweld pa weithgareddau arolygu, rheoleiddio ac archwilio sydd wedi’u cynllunio ar gyfer ymddiriedolaethau’r GIG, y Byrddau Iechyd Lleol, rhwydweithiau’r GIG a darparwyr gofal iechyd preifat a gwirfoddol cofrestredig yng Nghymru. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhoi ar y wefan ac yn cael ei defnyddio gan gyrff arolygu sydd wedi llofnodi Concordat Cymru, er bydd yr wybodaeth hon hefyd yn cael ei defnyddio gan ddarparwyr gwasanaethau ac ar gael ar gyfer y cyhoedd.

Bydd defnyddio’r Safle Cydgysylltu Gweithgareddau yn sicrhau dulliau mwy cydgysylltiedig ar gyfer arolygu, rheoleiddio ac archwilio ar gyfer y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bydd yn gwella’r systemau rhannu gwybodaeth rhwng y cyrff arolygu. Bydd yn cefnogi’r cyrff arolygu yn eu hymrwymiad i gydweithio er mwyn gwella iechyd a gofal cymdeithasol a lleihau pwysau diangen ar y rhai sy’n comisiynu a darparu gwasanaethau.

O ran yr adroddiadau ar gyfer y gweithgareddau adolygu sydd i’w gweld gan y cyhoedd, dangosir y dyddiad y disgwylir eu cyhoeddi, a bydd yr adroddiad ar gael ar y wefan o’r dyddiad hwnnw ymlaen. Mae rhai o’r sefydliadau yn cynnal ymweliadau dirybudd – dim ond staff y rhai sydd wedi llofnodi’r Concordat ac sydd wedi’u cofrestru i ddefnyddio’r wefan fydd yn gallu gweld manylion yr ymweliadau hyn, ond byddant ar gael i holl ddefnyddwyr y gwasanaeth ar ôl cynnal yr ymweliad dirybudd.

Gofynnir i sefydliadau sydd wedi llofnodi ac sy’n cynnal gweithgareddau adolygu ar draws ffin Cymru/Lloegr edrych ar yr wybodaeth cydgysylltu gweithgareddau ar gyfer Lloegr.

Mae’r rhai sydd wedi llofnodi wedi cytuno i edrych ar y wefan cyn penderfynu ar weithgareddau newydd ac i gydgysylltu unrhyw weithgareddau newydd gyda rhai a gynlluniwyd eisoes. Mae manylion am sut i gysylltu â ni ar gael er mwyn trafod unrhyw weithgareddau newydd. Defnyddiwch y cyswllt ‘Cysylltu â ni’ er mwyn gofyn cwestiynau am y rhai sydd wedi llofnodi, y concordat neu i roi adborth. Rhowch wybod os ydych yn credu bod gweithgareddau yn cael eu trefnu heb ymgynghori â’r wefan hon neu os oes gennych syniadau am sut i’w gwella.

Er bod y cyhoedd yn gallu gweld y safle cydgysylltu gweithgareddau, y prif nod yw helpu’r rhai sy’n adolygu wrth iddynt fynd ati i gydgysylltu eu gweithgareddau. Am y rhesymau hyn, mae gweddill y tudalennau i’w gweld yn Saesneg yn unig, er bod yr adroddiadau cyhoeddus yn cael eu darparu yn y Gymraeg a Saesneg, lle y byddant ar gael.


Last updated: 20/06/2006